
Croeso i Clwb Canŵ Eryri
CEUFAD A CANW WEDI EI LEOLI YNG NGOGLEDD CYMR
Y prif weithgaredd yng Nghlwb Ceufad Eryri ydyw ceufad mor, ond byddwn hefyd yn defnyddio canw a cheufad ar yr afonydd.
Mae’r clwb yn cyfarfod ar nosweithiau Llun 7-9 o’r gloch: yn yr haf mewn amrywiaeth o leoliadau yn yr ardal; yn y gaeaf, yn y pwll ym Mhlas Menai. Croesawir aelodau newydd - dewch i ymuno a ni i dreialu ychydig o sesiynnau cyn ymuno. Os oes diddordeb gennych yna cysylltwch ag Andrew Potter ar 01248 712358 neu Alwena Leadbitter ar 07773309187.

Beth rydym yn ei wneud:
Mae clwb Ceufad Eryri gydag aelodaeth o gwmpas 100 o wahanol oedran a gallu, wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru.
Mae’r clwb yn aelod o Canw Cymru a’r Bartneriaeth Awyr Agored a cheir aelodau y buddion canlynol:
mynediad i amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi eu trefnu - trip dydd, nos, sesiynnau pwll and tripiau pellach.
Rydym gyda yswiriant tryddydd rhan, yn cynhyrchu newyddlen rheolaidd a gyda nifer fechan o offer ar gael i’w fenthyg.

Ceufad mor allanol
Ar y Sul olaf o bob mis rydym yn trefnu padl drwy’r dydd ar gyfer ceufad mor, fel arfer o gwmpas arfordir gogledd Cymru. Penderfynir ar y lleoliad ddiwrnod ymlaen llaw ac yn ddibynol ar y llanw a’r tywydd. Cysylltwch a’r cydlynydd y diwrnod blaenorol am wybodaeth a chyngor ar y disgwyliadau a man cyfarfod.

Padl allanol gyda’r nos
Bob nos Lun drwy’r haf rydym yn cynnal tripiau ar gyfer dechreuwyr a rhai profiadol. Rydym yn cyfarfod i fod yn barod i fynd ar y dwr am 7 o’r gloch. Mae’r lleoliadau wedi eu penderfynnu ymlaen llaw, ond awgrymir eich bod yn cysylltu a’r cydlynydd yn enwedig os oes unrhyw amheuaeth am tywydd neu ansicrwydd am eich profiad.

Sesiynnau tu mewn yn y pwll ym Mhlas Menai
Drwy gydol y gaeaf rydym yn cyfarfod ym Mhlas Menai ar gyfer sesiwn yn y pwll, ar nos Lun. 19:00 - 19:45 i’r aelodau ieuengaf, 19:45 - 20:30 i’r oedolion. Cost : £3 oedolion, £2 plant. Nodwch fod angen i bob aelod iau fod gyda oedolyn sy’n gyfrifol amdanynt.
Rydym yn cymdeithasu yn y bar yn dilyn y sesiynnau yma ac ar y Llun olaf o’r mis byddwn hefyd yn cynnal noson o sgwrs ac arddangos.

Tripiau eraill
Mae’r clwb yn trefnu tripiau i rannau eraill o’r wlad a dramor. Gall rhain fod yn arbennig i gychod arbennig, neu unrhyw gwch. Yn ddiweddar mae tripiau wedi bod i Ynysoedd y Scillies, Penfro, Norwy a’r Alban

Padl i grwp cydradd
Mae’r clwb yn ffurf gwych o gyfarfod ag eraill o’r un meddylfryd a’r un gallu ac yn ogystal a’r tripiau sydd wedi eu trefnu mae aelodau yn trefnu padl eraill ar ddyddiau eraill.

Gweithgareddau cymdeithasol eraill
Nid dim ond padlo ydy’r clwb! Rydym hefyd yn cael BBQ, diwrnodau crefftau natur a phenwythnos ar gyfer aelodau iau. Mae calendr o siaradwyr, cwis, bwffet a chinio Nadolig.

Hyfforddi / Mentora
Mae Clwb Ceufad Eryri wedi ymrwymo i hybu padlo diogel a hwyliog a lle fo bosib, rhoir cefnogaeth i aelodau i gyrraedd safon a padlo y byddent yn anelu amdano. Cefnogir aelodau i gael cymwysterau mor a hyfforddwyr yn ogystal a chyngor a mentora anffurfiol - dim ond angen gofyn!