top of page
Caiac ar y Traeth.png

Y Stori hyd yma

Mae gwreiddiau Clwb Canŵio Eryri yn ymestyn yn ôl i’r 70au cynnar, ac rydym yn gyffrous i ddarganfod mwy am y dyddiau cynnar hynny gan gyn-aelodau. Yr hyn a wyddom ar hyn o bryd yw mai ym 1979, sefydlodd Alan Jones a Keith Raine o Gwm y Glo y clwb yn ei ffurf bresennol yn swyddogol.


Bryd hynny, roedd Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Plas Menai newydd agor eu drysau, ac roedd eu Pwll Canŵ ar gael ar nos Lun. Manteisiodd ein clwb ar y cyfle i ddefnyddio'r pwll hwn ar gyfer ymarfer, a buan iawn y daeth nosweithiau Llun yn draddodiad gwerth chweil. Hyd yn oed heddiw, mae dydd Llun yn parhau i fod yn noson arbennig i ni, gan gynnwys sesiynau pwll yn ystod misoedd y gaeaf, a padlo mor neu lynoedd gweddill y flwyddyn. Nid dyna’r cyfan wrth gwrs. Mae ein calendr yn llawn o ddigwyddiadau ar wahanol ddiwrnodau. Yng Nghlwb Canŵio Eryri, mae wastad rhywun i badlo gyda nhw a rhywbeth cyffrous i’w wneud, waeth beth fo’r tywydd. Os ydych chi'n newydd ac angen offer, dim problem, gallwn roi benthyg popeth sydd ei angen arnoch am gost isel iawn. Edrychwch ar ein hadrannau gwe, Newydd ddechrau, Meddu ar rai sgiliau, neu Chwilio am fwy, i weld beth rydym yn ei wneud sy'n gweddu lle rydych ar eich taith padlo.


Ymunodd Kay McManus, cadeirydd ein clwb, â SCC yn 2001, ac mae llawer o’n haelodau presennol wedi bod gyda ni yn hirach fyth. Heddiw, mae ein clwb ni dros 120, gydag aelodau 8 oed i ymhell dros 21! Nid yw oedran yn rhwystr. Rydyn ni'n angerddol am rannu llawenydd padlo gyda phawb, p'un a ydych chi'n ddechreuwr llwyr neu'n arbenigwr.


I’n cyn-aelodau: Byddem wrth ein bodd yn clywed mwy am hanes cynnar y clwb. Os oes gennych unrhyw straeon, dogfennau, neu atgofion i'w rhannu, cysylltwch â ni. Mae eich cyfraniadau yn rhan werthfawr o’n stori, ac rydym wedi colli rhai darnau!

bottom of page