Ydych chi'n chwilio am ffordd hwyliog a chyffrous o gymryd rhan yng nghymuned caiacio Gogledd Orllewin Cymru? Peidiwch ag edrych ymhellach na Chlwb Canŵio Eryri!
Os ydych chi neu'ch teulu yn newydd i gaiacio, efallai yr hoffech chi roi cynnig ar sesiwn blasu am ddim cyn ymuno? Pan fyddwch yn dod yn aelod, gallwn ddarparu sesiynau hyfforddi dechreuwyr rhad ac am ddim wedi'u cynllunio i'ch helpu i badlo'n ddiogel ac yn hyderus. Mae'n wych os oes gennych chi'ch cit eich hun, ond dim problem os nad oes gennych chi. Mae offer gennym i'w logi am bris isel.
Unwaith y byddwch yn gyfforddus ar y dŵr gallwch ddechrau mwynhau ein padlau cymdeithasol wythnosol a'r gwibdeithiau misol bythgofiadwy, i gyd yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr clwb profiadol a chymwys.
Gallwch ddatblygu ar eich pwysa eich hun i gwrdd a'ch nodau eich hun. Os mai'r cyfan rydych chi eisiau yw padlo'n ddiogel gyda ffrindiau a mwynhau ochr gymdeithasol y clwb, mae hynny'n iawn. Os ydych chi eisiau gwneud mwy, gallwch chi ddarganfod popeth sydd ar gael a chymryd rhan ar ein grŵp Gweplyfr clwb, ac yn yr ap Spond lle rydyn ni'n trefnu ac yn rheoli digwyddiadau.
Peidiwch a phoeni am eich hoedran, yn hyn neu ifanc, mae gennym aelodau o bob oedran o 7 oed i 75 yn weithgar ac yn padlo gyda ni.
Edrychwn ymlaen i'ch croesawu i'r clwb.
Comments